Canllawiau Statudol Dyletswydd Trais Difrifol
Gweler isod y ddolen i’r canllawiau statudol terfynol. Caiff y canllawiau statudol hwn eu hadolygu flwyddyn ar ôl ei gyhoeddi: Dyletswydd Trais Difrifol – GOV.UK (www.gov.uk)
Gweler isod y ddolen i’r canllawiau statudol terfynol. Caiff y canllawiau statudol hwn eu hadolygu flwyddyn ar ôl ei gyhoeddi: Dyletswydd Trais Difrifol – GOV.UK (www.gov.uk)
Heddiw rydym yn cyhoeddi pennod newydd sbon yng Nghyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel, Mynd i’r afael ag ymddygiad niweidiol gyda phlant a phobl ifanc. Ein gwestai yr wythnos hon yw Bethan James, Rheolwr Rhaglen Ysgolion Heddlu Dyfed-Powys. Yn y bennod yma, byddwn ni’n edrych ar y ffyrdd fwyaf effeithiol o fynd i’r afael … Parhad
Heddiw rydym yn cyhoeddi pennod newydd sbon yng Nghyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel, Cefnogi dioddefwyr a chymunedau yng ngogledd Cymru. Ein gwestai’r wythnos hon ar gyfer y bennod Gymraeg yw Rhian Rees Roberts, Swyddog Craffu a Pholisi, a Stephen Hughes, y Prif Swyddog Gweithredol, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru; ac … Parhad
Heddiw rydym yn cyhoeddi pennod arall yng Nghyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel, Atal – Sut y gallai gwylwyr helpu i atal aflonyddu rhywiol. Ein gwestai’r wythnos hon ar gyfer y bennod Gymraeg yw Ann Williams, Rheolwr Llinell Gymorth Byw Heb Ofn; ac ar gyfer y bennod Saesneg, Sophie Weeks, Pennaeth Materion Cyhoeddus a … Parhad
Mae’n bleser gan Hyb ACE Cymru rannu ein hadroddiad newydd gyda chi, Adnabod Llwybrau Menywod at Droseddu a’r Cyfleoedd Atal Sylfaenol ac Ymyrraeth Gynnar i Fenywod Mewn Perygl o Droseddu yng Nghymru. Nod y prosiect hwn oedd nodi’r ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar lwybrau menywod i droseddu a’r cyfleoedd atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar i … Parhad
Mae Rhwydwaith Diogelwch Cymunedol yr Alban wedi cyhoeddi ‘Map Diogelwch Cartref’, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA). Mae’r map yn dangos ymchwil i beryglon cyffredin y mae modd eu hosgoi yn ein cartrefi. Mae’n tynnu sylw at achosion trasig o anaf a marwolaeth, sy’n benodol i blant cyn ysgol ac … Parhad
Mae Heddlu Gwrthderfysgaeth wedi creu taflen newydd ar ddefnydd y Rhyngrwyd a pheryglon radicaleiddio. Anelir y daflen at rieni/ gwarcheidwaid a’r bwriad yw helpu i egluro sut i adnabod arwyddion radicaleiddio gyda rhai cysylltiadau gyda chyngor a chefnogaeth. Dilynwch y ddolen isod i gael mynediad i’r daflen.
Heddiw rydym yn cyhoeddi’r ail bennod yng Nghyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel, GWEITHREDU nawr! Peryglon misogyny treisgar a radicaleiddio. Ein gwestai’r wythnos hon ar gyfer y bennod Gymraeg yw Alun Thomas, Cynghorydd Rhanbarthol Prevent ar gyfer De Ddwyrain Cymru; ac ar gyfer y bennod Saesneg, Andrew Jones, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Prevent ar gyfer … Parhad
Croeso i bennod gyntaf Cyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel. Yn y gyfres yma, rydyn ni’n archwilio diogelwch menywod a merched yng Nghymru, gyda phenodau’n cael eu rhyddhau bob dydd Mercher am y 6 wythnos nesaf. Mae’r bennod gyntaf yn trafod cyfiawnder menywod a sut rydym yn bwriadu darparu dull cyfannol o ymdrin â … Parhad
Mae gogledd Cymru wedi cyhoeddi strategaeth newydd, sy’n ceisio helpu i fynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi troseddu gan fenywod yng Ngogledd Cymru ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau menywod, lleihau eu hymwneud â’r system gyfiawnder troseddol, a thorri trosedd. Dyma’r strategaeth gyntaf o’i math ar lefel leol yng Nghymru.