Adolygiadau Diogelu
- Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod y trefniadau ar gyfer adolygiadau ymarfer plant amlasiantaeth ac adolygiadau ymarfer oedolion. Mae canllawiau a gaiff eu darparu o dan y Ddeddf hon yn rhan o’r gofynion cyfreithiol.
- Roedd Deddf Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithrediadau) (Cymru) 2015 yn gosod y meini prawf a’r trefniadau ar gyfer adolygiadau ymarfer plant ac adolygiadau ymarfer oedolion.
- Cafodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ei gadarnhau gan Lywodraeth y DU yn 1991.
Adolygiadau Lladdiadau Domestig
- Sefydlodd Deddf Trais Domestig, Troseddau a Dioddefwyr 2004 sail statudol ar gyfer Adolygiadau Lladdiadau Domestig a weithredwyd gyda chanllawiau priodol yn 2011 ac fe’i hadolygwyd yn 2016. Mae’n nodi “yr amgylchiadau lle mae marwolaeth unigolyn 16 oed neu hŷn yn, neu’n ymddangos ei fod yn, ganlyniad i drais, camdriniaeth neu esgeulustod gan:
- unigolyn yr oedd yn perthyn iddo neu yr oedd ef/hi mewn, neu wedi bod mewn, perthynas bersonol agos gyda hwy neu
- aelod o’r un aelwyd â hwy eu hunain, wedi ei gynnal gyda’r bwriad o nodi’r gwersi i’w dysgu o’r farwolaeth.”
Lle y bodlonir y diffiniad, a hynny’n cael ei gadarnhau gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, yna mae’n rhaid cynnal Adolygiad Lladdiad Domestig.
Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl argymhellion o Adolygiadau Lladdiadau Domestig i gael eu cyflwyno i’r Comisiynydd Cam-drin Domestig.