Neidio i'r prif gynnwys

Diogelwch y Cyhoedd

Archwilio is-bynciau

Beth yw Diogelwch y Cyhoedd?

Mae Diogelwch y Cyhoedd yn cynnwys diogelu ac amddiffyn y cyhoedd, yn ogystal ag ymateb i drosedd, trychineb a pheryglon a bygythiadau peryglus eraill. Mae hyn yn cynnwys y gwasanaethau brys yn gweithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys elusennau sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch. Mae gweithgaredd gan bartneriaethau diogelwch cymunedol yn cynnwys darparu negeseuon diogelwch hanfodol a chefnogi ymdrechion paratoi, ymateb ac adfer, i helpu i leihau anafiadau a marwolaethau y gellir eu hosgoi o fewn ein cymunedau.

O fewn y testun hwn rydym yn archwilio amrywiol agweddau o ddiogelwch y cyhoedd, gan gynnwys Diogelwch Tân, Tanau Bwriadol a Diogelwch ar y Ffyrdd – sydd â chysylltiadau uniongyrchol gyda diogelwch cymunedol. Mae gwaith Argyfyngau Sifil Posibl a Gwytnwch o amgylch cysylltiadau parodrwydd am argyfwng i weithgaredd Gwrthderfysgaeth ac Eithafiaeth. Rydym hefyd yn cynnwys Diogelwch Cartref a Diogelwch yr Awyr Agored (gan gynnwys dŵr) sy’n cefnogi uchelgeisiau ehangach cymunedau mwy diogel.

 

Egwyddorion JESIP ar gyfer cydweithio

Mae canfyddiadau a gwersi a nodwyd gan ymholiadau’r cyhoedd a chwest wedi amlygu achosion ble byddai’r gwasanaethau brys wedi gallu gweithio’n well gyda’i gilydd a dangos lefelau llawer gwell o gyfathrebu, cydweithredu a chydlynu (gweler Adroddiad Pollock ). Mae JESIP yn ceisio gwella cydweithio rhwng y gwasanaethau brys ac ymateb drwy’r 5 egwyddor JESIP  – Cydleoli; Cyfathrebu; Cydlynu; Deall risg ar y cyd; ac Ymwybyddiaeth Rhannu Sefyllfa.

 

Gwarchod y Cyhoedd

Mae yna gysylltiadau o Ddiogelwch y Cyhoedd i Warchod y Cyhoedd neu Wasanaethau Rheoleiddio a ddarperir gan Awdurdodau Lleol sy’n cynnwys iechyd yr amgylchedd, safonau masnach, rheoli llygredd, rheoli pla, pwysau a mesurau, rheoli adeiladau, gwasanaethau cynghori, trwyddedu, diogelwch bwyd, iechyd a diogelwch ac iechyd anifeiliaid.

Mae Gwasanaethau yn anelu i hybu amgylchedd masnachu teg i ddinasyddion a busnes. Fodd bynnag, mae materion troseddol sydd angen ymchwiliad pellach yn cael eu cyfeirio at dîm Safonau Masnach Awdurdodau Lleol, sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu a chyrff ymchwilio eraill. Yn nodedig, mae gwerthu nwyddau ffug, twyllwyr masnach neu fenthyca arian yn anghyfreithlon yn gallu cael ei gysylltu i drosedd a drefnwyd (gweler Trosedd Difrifol a Throsedd a Drefnwyd).

Mae testunau cysylltiol eraill i ddiogelwch y cyhoedd o fewn y wefan hon yn cynnwys Diogelu, Gorchymyn Cyhoeddus, Mannau Cyhoeddus, Economi Min Nos (gan gynnwys trwyddedu) a Diogelwch Personol (gan gynnwys cyfeiriad at Iechyd a Diogelwch yn y gweithle) ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Amgylcheddol (cyfeirio at Iechyd yr Amgylchedd).

  • Mae pob testun yn cynnwys deddfwriaeth berthnasol. Fodd bynnag, mae’r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 a chanllawiau yn darparu’r fframwaith modern i baratoi ar gyfer argyfwng a gwydnwch.
  • Roedd polisi rheoli argyfwng a deddfwriaeth gysylltiol blaenorol y DU yn bennaf yn seiliedig ar ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amddiffyniad sifil.
  • Gweler hefyd Terfysgaeth ac Eithafiaeth.

 

Dolenni defnyddiol

Cyngor ac atal trosedd | Heddlu.du

Ewch i’r Wefan

Cymdeithas Prif Swyddogion Safonau Masnach (CPSSM) a Safonau Masnach Cenedlaethol

Ewch i’r Wefan

Gofyn i’r Heddlu DU

Ewch i’r Wefan

Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd

Ewch i’r Wefan

Safonau Masnach Cymru

Ewch i’r Wefan

Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004: canllaw byr

Darllenwch yr Canllaw

Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru

Ewch i’r Wefan

Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru – Rhoi gwybod am broblem gyda bwyd

Ewch i’r Wefan

Gwasanaeth Cyngor Ariannol – Benthycwyr Arian Didrwydded

Darllenwch yr cyngor

Paratoi a chynllunio ar gyfer argyfyngau: cyfrifoldebau asiantaethau sy’n ymateb ac eraill – GOV.UK (www.gov.uk)

Darllenwch y Canllawiau

StayWise – Achub bywydau drwy addysg

Ewch i’r Wefan

Safonau Masnach yn eich Cyngor – Llawlyfr Aelodau 2018 (WHoTS).pdf – Tach-2018

Darllenwch yr Canllaw


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae yna bedwar prif wasanaeth brys yn y DU – Y Gwasanaeth Tân ac Achub, Ambiwlans, yr Heddlu a Gwylwyr y Glannau. Yng Nghymru mae hyn yn cynnwys – Heddlu De Cymru; Heddlu Dyfed Powys ; Heddlu Gwent ; Heddlu Gogledd Cymru; Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru; Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru; Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ; Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru; a Gwylwyr y Glannau EM.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu tecstiwch 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.

Mae gwasanaethau achub bywyd arbenigol eraill yn cynnwys RNLI – Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Bad Achub, Wales Flying Medics, Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru a thimau achub mynydd rhanbarthol.

Gweler ein Cyfeiriadur ar gyfer dolenni a gwasanaethau Awdurdod Lleol.

 

Mae What 3 words wedi rhannu’r byd yn 3 metr sgwâr ac mae’n rhoi cyfuniad unigryw o dri gair i bob sgwâr. Mae’n ffordd hawdd i ganfod a rhannu union leoliadau mewn argyfwng pan nad yw cyfeiriadau stryd yn gywir neu ddim yn bodoli.