Neidio i'r prif gynnwys

Costau Byw

Archwilio is-bynciau

Beth yw costau byw?

Mae’r ‘argyfwng costau byw’ yn cyfeirio at y gostyngiad o ran incymau gwario ‘go iawn’ (hynny yw, wedi’u haddasu o ran chwyddiant ac ar ôl trethi a budd-daliadau) y mae’r DU wedi’i brofi ers diwedd 2021 (Institute for Government).

Cyrhaeddodd cyfradd chwyddiant blynyddol 11.1% ym mis Hydref 2022, sef y lefel uchaf ers 41 mlynedd yn ôl Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin. Bu’r cynnydd uchaf mewn costau ynni, costau tanwydd, bwyd, a chynnydd o ran Cyfradd Llog Banc Lloegr er mwyn rheoli chwyddiant. Mae hyn wedi arwain at forgeisi uwch a chynnydd o ran rhent, wrth i gostau landlordiaid gynyddu.

Mae llawer o gyngor ar gael i gefnogi unigolion a chymunedau i reoli Costau Byw. Fodd bynnag, mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru am sicrhau bod popeth yn cael ei wneud yn ddiogel.

Mae Rhwydwaith Diogelwch Cymunedol yr Alban wedi ysgrifennu papur briffio sy’n rhestru’r deg prif fater yn yr Alban.

Dyma rai o’r prif feysydd yng Nghymru.

  1. Diogelwch ar y ffyrdd: Mae angen cynnal a chadw ceir o hyd, gan gynnwys yswiriant, MOT a sicrhau bod pob rhan o’r car yn gweithio’n iawn. Mae hyn yn cynnwys teiars, weipars a goleuadau, sy’n bwysicach fyth yn y gaeaf. Nid yw gostyngiad o ran nifer y cerbydau ar y ffordd yn ei gwneud yn fwy diogel i yrru’n gyflym na thorri’r gyfraith trwy deithio’n gyflymach na’r terfyn cyflymder. Wrth gerdded neu feicio, cadwch yn ddiogel trwy aros ar balmentydd lle bo’n bosibl, a sicrhau bod modd i gerbydau eich gweld chi’n glir. Gellir defnyddio apiau fel Hollie Guard, Evans Halshaw, neu Autodeutsche ar eich ffôn hefyd er diogelwch.
  2. Gwasanaethau cymunedol: Mae posibilrwydd y bydd rhai gwasanaethau cymunedol yn gweithredu ar oriau llai, fel canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a lleoliadau eraill. Gallai hyn arwain at ostyngiad o ran sgiliau (fel nofio), dirywiad o ran iechyd ac iechyd meddwl oherwydd llai o ymarfer corff, a chynnydd o ran unigrwydd. Wrth i incymau gwario leihau, efallai na fydd hi’n fforddiadwy i bobl fynychu’r gwasanaethau hyn. Yng Nghymru, mae canolfannau cynnes neu leoliadau cynnes yn agor. Adeiladau lle gallwch chi fynd i gadw’n gynnes, cael diod cynnes a chymdeithasu yw’r rhain. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan eich cyngor.
  3. Diogelwch tân: Mae’r cyngor am ddiogelwch tân yn aros yr un fath. Peidiwch â gadael canhwyllau’n llosgi pan nad oes neb yn yr ystafell. Peidiwch â gadael i beiriannau redeg tra byddwch chi’n cysgu. Peidiwch â rhoi gormod o declynnau mewn socedi a pheidiwch â cheisio cael mynediad at drydan a nwy yn anghyfreithlon. Defnyddiwch y gwefrwr neu gysylltwr cywir ar gyfer dyfeisiau. Peidiwch â defnyddio offer coginio awyr agored dan do. Sicrhewch fod y simnai’n cael ei lanhau’n rheolaidd. Gwiriwch a newidiwch fatris mewn synwyryddion mwg a C02.
  4. Prynu: Gall cyllidebau is arwain at nwyddau rhatach nad oes ganddynt yr un safonau diogelwch, a nwyddau ffug, a allai gynyddu risgiau tanau trydan neu danau eraill, mygu, halogiad a thagu oherwydd nad yw eitemau’n bodloni gofynion cyfreithiol. Er mwyn osgoi hyn, dylech wybod eich hawliau a’r safonau gofynnol.
  5. Cynnal a chadw boeleri: Gall fod yn gost-effeithiol cynnal a chadw boeler, fodd bynnag os nad yw’r arian ar gael, mae risg y gallai pobl beidio â gwneud hyn, sy’n golygu na fydd y boeleri’n addas i’w defnyddio (HSE: Diogelwch nwy; Llywodraeth Cymru: Boeleri a systemau gwresogi).
  6. Gofal: Mae plant ac oedolion sydd angen gwasanaethau gofal dan bwysau, ond hefyd mae’n bosibl na fydd y rhai sy’n talu drostynt eu hunain yn gallu fforddio gymaint pan fydd angen iddynt gadw’r tŷ’n gynnes hefyd, gan arwain at gynnydd o ran pwysau ariannol a phwysau iechyd meddwl (Iechyd Cyhoeddus Cymru; Yma).
  7. Golau: Mae sôn wedi bod am flacowt cenedlaethol. Gallai hyn arwain at nifer sylweddol o bobl yn defnyddio canhwyllau i oleuo ystafelloedd, gan gynyddu’r risg o dân yn sylweddol, ond bydd hefyd yn cynyddu’r risg o faglu a chwympo gan fod mannau wedi’u goleuo’n wael (Diogelwch yn y Cartref).
  8. Troseddau meddiangar: Mae potensial ar gyfer rhagor o ladradau, achosion o dorri i mewn a dwyn wrth i bobl geisio diwallu eu hanghenion sylfaenol (Which?).
  9. Cam-drin domestig: “Mae’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig yn debygol o deimlo mwy o gaethiwed, oherwydd rhesymau ariannol a chymhlethdodau gyda phartneriaid a theuluoedd, ac ni fyddant yn gallu dianc rhag perthnasoedd camdriniol. Mae’r argyfwng costau byw yn debygol o waethygu rhai achosion o gam-drin, gan arwain at fwy o orfodaeth, ymosodiadau, anafiadau difrifol a marwolaethau” (Rhwydwaith Diogelwch Cymunedol yr Alban).
  10. Sgamiau a thwyll: “Bydd dinasyddion yn gweld mwyfwy o ymdrechion i gyflawni sgamiau gwe-rwydo ar-lein a thwyll dros e-bost, a blacmêl trwy’r cyfryngau cymdeithasol, e-bost a ffonau symudol. Bu cynnydd o ran nifer y troseddau hyn ers i’r pandemig ddechrau yn 2020. Disgwylir i hyn gynyddu wrth i gangiau trosedd cyfundrefnol gamfanteisio ar hyn ymhellach. Disgwylir i’r gangiau trosedd cyfundrefnol ehangu’r gweithgareddau hyn a pharhau i recriwtio plant, oedolion ifanc, pobl ddiamddiffyn; y rhai sydd fwyaf agored i awgrym cymhellol a bygythiad. Bydd benthycwyr arian didrwydded yn ceisio camfanteisio ar nifer gynyddol o ddinasyddion, gan gynnwys rhai nad ydynt erioed wedi profi cyni o’r blaen o bosibl” (Rhwydwaith Diogelwch Cymunedol yr Alban).

Help a Chefnogaeth

I ddioddefwyr, teuluoedd a phobl sy’n pryderu

Os ydych wedi bod yn dyst neu’n ddioddefwr trosedd dylech roi gwybod i’r Heddlu.  Ffoniwch 101, neu gallwch roi gwybod ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o fewn Cymru – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn achos o argyfwng ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu anfonwch neges destun ar 999 os ydych wedi cofrestru gyda gwasanaeth argyfwng SMS.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd ac yn dymuno aros yn ddienw, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd, gallwch gael mynediad at gymorth gan Gymorth i Ddioddefwyr, gan gynnwys eu llinell gymorth cenedlaethol 24/7 am ddim 08 08 16 89 111, neu gallwch dderbyn cymorth ar-lein.

Gallwch ystyried ymuno â Chynllun Gwarchod Cymdogaeth, neu fentrau eraill a gefnogir gan yr Heddlu megis OWL – Online Watch Link.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gadw eich hun yn ddiogel rhag trosedd, ewch i’n tudalen Diogelwch Personol ac i gael help a chymorth arbenigol, ewch i’r adran Testunau unigol ar ein gwefan.