Neidio i'r prif gynnwys

Diogelwch yn y Cartref

Archwilio is-bynciau

Beth yw Diogelwch yn y Cartref?

Mae diogelwch yn y cartref yn cyfeirio at ymwybyddiaeth ac addysgu am risg a pheryglon posibl o fewn ac o amgylch y cartref a all achosi niwed corfforol, anaf neu hyd yn oed farwolaeth i’r sawl sy’n byw yn ac o amgylch strwythur ffisegol y tŷ. Mae’n cynnwys lliniaru neu atal peryglon diangen drwy brofi, ymchwilio a derbyn safonau cymwysiadau ac arferion.

Rhai o’r peryglon i fod yn barod amdanynt:

  • Cwympiadau: gwiriadau lliniaru ar gyfer peryglon baglu, gosod canllawiau a sicrhau mynediad hawdd i ffynonellau golau.
  • Tanau: lliniaru rheolaeth fflamau noeth mewn ffyrdd diogel, peidiwch â choginio o dan ddylanwad sylweddau, peidiwch â gorlwytho socedi plygiau a gosod larymau mwg ar bob lefel yn y cartref.
  • carbon monocsid: cael monitor carbon monocsid ar bob llawr gyda boeler nwy neu dân.
  • Tagu: lliniaru cadw eitemau bach oddi wrth blant bach, bwyta bwyd yn araf gan sicrhau cnoi ac ymateb cymorth cyntaf.
  • Toriadau: lliniaru drwy gadw cyllyll yn ddiogel ac allan o’r ffordd, edrych am eitemau eraill sy’n gallu achosi toriadau fel papur, caniau, gwydr a chardfwrdd, dysgu sut i edrych ar ôl toriad. Os yw’n ddrwg, ewch i’r adran damweiniau ac achosion brys agosaf neu gofynnwch am gyngor meddygol arall.
  • Gwenwyn: lliniaru drwy wybod pa eitemau sydd yn y tŷ neu’r ardd sy’n wenwynig, cadw draw oddi wrth blant neu oedolion mewn perygl. Storio meddyginiaeth yn gywir, cadw paent allan o gyrraedd, sicrhau bod holl gemegion yn ddiogel a chadw cynnyrch glendid personol a chadw glanedydd a chynnyrch cannu dan glo.
  • Crogi: lliniaru drwy gadw, torri neu symud cortyn ar ffenestri fel bleind a llenni a all fod yn berygl crogi i blant bach.
  • Boddi: lliniaru drwy gadw bwcedi, os oes yna bwll neu bwll nofio peidiwch â chaniatáu i blentyn bach chwarae allan heb oruchwyliaeth. Cadw golwg ar blant bach yn y baddon.
  • Llosgiadau: lliniaru drwy roi peiriant golchi llestri ar glo clicied, defnyddio llosgwyr cefn ar hob, ychwanegu gorchudd nobyn stôf, defnyddio sgrin diogelwch o amgylch tân, sicrhau nad yw’r tegell o fewn cyrraedd a bod yn ofalus ble rhoddir potiau a hambyrddau poeth allan o’r popty. Peidiwch byth â gadael plant ac oedolion mewn perygl gyda fflamau noeth.
  • Mygu: i liniaru cadwch fagiau plastig allan o gyrraedd plant ac oedolion sydd mewn perygl a all o bosibl eu rhoi dros eu pen gan achosi iddynt fygu.

Mwy na 14,000 o bobl yn cael damweiniau ar draws y DU bob blwyddyn gyda miloedd mwy yn dioddef anafiadau, llawer yn newid bywyd ac yn lladd.” RoSPA

Mae anafiadau yn y cartref yn cael eu diffinio fel anafiadau anfwriadol sy’n digwydd yn ac o amgylch y cartref.  Os ydynt yn anafiadau bwriadol yna maent naill ai yn gam-drin domestig, cam-drin plant neu gam-drin oedolion.

Yn ogystal, mae yna ddiogelwch cartref sy’n ymwneud â chadw’r tŷ a’r meddianwyr yn ddiogel. Y prif ddulliau ar gyfer hyn yw drwy gloeon ar gyfer cartrefi a drysau, caledu targedau ble mae yna risg o gam-drin domestig a mesurau diogelwch personol eraill.

Mae rheoliadau adeiladu tai hefyd yn dod o dan y gofynion diogelwch cartref.

Yn yr Haf 2021 roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cam 1 o Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru. Mae hyn yn darparu arian grant ar gyfer arolygon diogelwch tân. Bydd yr arolygon diogelwch tân yn nodi pa fesurau a chamau sy’n ofynnol i wneud adeiladau aml-breswyl yn ddiogel fel y gellir diogelu bywydau ac eiddo os bydd yna dân. Bydd y canfyddiadau o arolwg diogelwch tân yn llywio creu “Pasbort Adeiladu – Diogelwch Tân”. Er mai’r flaenoriaeth gyntaf fydd adeiladau preswyl uchel, bydd yr arian grant hwn hefyd ar gael ar gyfer adeiladau amlfeddiant canolig hefyd (11m+). Bydd y cynllun yn agored ar gyfer datganiadau o ddiddordeb gan unigolion cyfrifol/perchnogion tai/cwmnïau rheoli o’r Hydref 2021.

 

Dolenni defnyddiol

Diogelwch yn y Cartref – RoSPA

Ewch i’r Wefan

Age UK – Diogelwch yn y Cartref

Ewch i’r Wefan

Llywodraeth Cymru – diogelwch ac atgyweiriadau yn y cartref

Ewch i’r Wefan

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru – cartref sy’n eich cadw’n ddiogel

Ewch i’r Wefan

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru – ymweliad Diogel ac Iach

Ewch i’r Wefan

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru – Yn y Cartref

Ewch i’r Wefan

Gofal a Thrwsio Cymru

Ewch i’r Wefan


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych wedi bod yn dyst neu’n ddioddefwr o drosedd dylech roi gwybod i’r Heddlu. Ffoniwch 101 neu ei riportio ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o Gymru – Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed Powys , Heddlu Gwent  neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn achos o argyfwng ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu tecstiwch 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd ac yn dymuno bod yn anhysbys, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Bydd y Gwasanaeth Tân yn darparu gwiriadau diogelwch yn y cartref i oedolion mewn perygl, ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub. Bydd Gofal a Thrwsio yn cynnal gwiriadau diogelwch tai i bobl hŷn a gallant gynnal addasiadau drwy gynlluniau gofal neu fentrau cymdeithasol.