Mae Argyfyngau Sifil Posibl ynglŷn â pharatoi ac ymateb i argyfwng sifil posibl, sy’n ddigwyddiad neu’n sefyllfa sy’n bygwth difrod difrifol i les dynol neu’r amgylchedd neu le yn y DU, neu ryfel neu derfysgaeth sy’n bygwth difrod difrifol i ddiogelwch y DU. Mae’r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 yn cynnwys y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer ymateb i argyfyngau sifil. Mae Argyfyngau Sifil Posibl yn dibynnu ar barodrwydd a gwytnwch drwy sicrhau bod sefydliadau ac ardaloedd yn barod ar gyfer argyfyngau ac yn canolbwyntio ar ddatblygu gwytnwch a gallu i ymateb iddynt a’u gwrthsefyll.
Mae Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru) yn gyfleuster a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gasglu a lledaenu gwybodaeth yng Nghymru ar argyfyngau sy’n datblygu (gyda chysylltiadau cryf gyda chenhedloedd eraill y DU). Mae’n cefnogi’r Pwyllgor Argyfyngau Sifil Posibl Cymru a Gweinidogion Cymru i ddarparu briff a chyngor ar argyfyngau.
Beth yw Gwytnwch?
Mae bod yn wydn yn disgrifio gallu unigolyn, cymuned neu system i wrthsefyll straen a heriau.Mae’n cynnwys y gallu i addasu a goroesi amgylchiadau difrifol (fel sioc amgylcheddol, cymdeithasol neu economaidd), neu ymdopi a ffynnu o ystyried heriau bywyd bob dydd. Ar lefel unigol, mae gwytnwch wedi’i gysylltu â iechyd meddwl a chorfforol ar draws cwrs bywyd ac mae budd poblogaeth wydn wedi’i awgrymu i ymestyn y tu hwnt i ddeilliannau cymdeithasol ac economaidd.
(Ffynhonnell:Gwydnwch:Deall y cyd-ddibyniaeth rhwng unigolion a chymunedau – Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Mae gwytnwch yn faes eang, er enghraifft, dylai nod Cymru Wydn, yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru , ganolbwyntio ar gynnal a datblygu “amgylchedd bioamrywiol naturiol gydag ecosystemau sy’n gweithio’n dda.” Fodd bynnag, mae llawer o Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus yn aml yn canolbwyntio ar feysydd fel ailgylchu, llifogydd, glanweithdra, tipio anghyfreithlon a lleihau allyriadau.
Paratoi unigolion, cymunedau a systemau yn well i ymateb ac addasu’n gadarnhaol i ddifrifoldeb a newid yn flaenoriaeth ar gyfer cymdeithasau cynaliadwy ac adfer o drychineb. O fewn cyd-destun Argyfyngau Sifil Posibl, “mae’r term cymunedau gwydn hefyd yn cael ei ddefnyddio’n aml yng nghyd-destun lleihau risg o drychineb (fel llifogydd) a phwysigrwydd creu isadeiledd priodol, systemau a phrosesau gwneud penderfyniad (WHO, 2020)”. Mae partneriaethau gwydn (fel Fforwm Gwytnwch Cymru a Fforymau Gwytnwch Lleol) yn dod ag asiantaethau ynghyd i helpu i gryfhau parodrwydd a datblygu gallu cyfunol o fewn cynllunio brys.
Ffilm Digwyddiad Mawr JESIP – fideo hyfforddiant 16-munud yn dangos sut y gall yr ymateb i ddigwyddiad gael ei gydlynu o’r foment y derbynnir yr alwad mewn ystafell reoli, i pan mae’r ymatebwyr yn cyrraedd.
Exercise Joint Endeavour – Ffilm fyr yn cynnwys golygfeydd o brif ymarfer amlasiantaeth JESIP a gynhaliwyd yng Nglannau Mersi ym mis Medi 2014
Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu tecstiwch 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaethSMSbrys brys.
Gweler ein Cyfeiriadur ar gyfer dolenni a gwasanaethau Awdurdod Lleol.
Mae What 3 words wedi rhannu’r byd yn 3 metr sgwâr ac mae’n rhoi cyfuniad unigryw o dri gair i bob sgwâr. Mae’n ffordd hawdd i ganfod a rhannu union leoliadau mewn argyfwng pan nad yw cyfeiriadau stryd yn gywir neu ddim yn bodoli.