Cymorthfeydd Diogel
Er na allwn ragweld na rheoli popeth a allai ddigwydd i ni, mae rhai camau y gallem ddewis eu cymryd i liniaru ac osgoi risg. Mae’r rhestr wirio hon yn eich helpu i ystyried beth i’w feddwl wrth drefnu cymorthfeydd a digwyddiadau ymgysylltu:
Dechreuwch trwy ofyn y cwestiynau canlynol i’ch hun:
- A yw ystafell ddynodedig y gymhorthfa yn agos at ardaloedd eraill lle mae staff?
- A fydd cydweithwyr eraill yn bresennol yn yr adeilad pan fyddaf yn cynnal fy nghymhorthfa?
- A yw cydweithwyr eraill yn ymwybodol fy mod yn cynnal fy y gymhorthfa ac a ydynt yn gwybod ym mha ystafell yr wyf yn ei chynnal?
- A oes angen cydweithiwr arnaf i’m cefnogi yn y cyfarfod?
- Os na, ydw i wedi rhoi gwybod iddynt fy mod yn dechrau neu’n gorffen fy nghymhorthfa?
- A ydw i wedi dweud wrth fy nghydweithiwr pa mor hir y dylai’r gymhorthfa gymryd, fel y gallant edrych i mewn arnaf os yw’n cymryd mwy o amser?
- A oes llyfr log digwyddiadau? – yn darparu lle canolog i gofnodi digwyddiadau’n gywir, heb ddibynnu ar gyfrifon anecdotaidd a all fod yn annibynadwy.
- Ydw i wedi gwirio llyfr log y digwyddiad i weld a yw’r ymwelydd wedi mynychu o’r blaen ac wedi achosi problemau? – dylai pob math o ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys cam-drin geiriol, gael ei gofnodi, ei amseru a’i lofnodi.
- A yw’r ymwelydd wedi ymddwyn yn afresymol o’r blaen neu wedi bod yn ymosodol neu’n wrthdrawol?
- A yw’r ymwelydd ar hyn o bryd yn arddangos ymddygiad afresymol neu arwyddion o fod yn ofidus, yn ddig neu’n ymosodol?
- A ydw i wedi gwirio’r ystafell i wneud yn siŵr ei bod wedi’i gosod yn gywir gyda’m cadair agosaf at y drws, fel y gallaf fynd allan yn gyflym os bydd angen?
- A yw fy llwybr dianc yn glir a sut mae mynd allan yn gyflym ac yn ddiogel os bydd angen?
- Ydw i wedi cael gwared ar unrhyw eitemau sydd wedi cael eu gadael o gwmpas, y gellid eu defnyddio fel arf yn fy erbyn?
- A oes digon o le rhyngof i a’r ymwelydd i barchu gofod personol?
- Ydy’r ystafell wedi’i goleuo’n dda?
- Sut mae galw am help os oes ei angen?
- Oes ffôn yn yr ystafell?
- A oes angen fy ffôn symudol arnaf, a yw wedi’i wefru ac a oes signal arno?
- A oes yna gyfrinair y gallaf ei ddefnyddio’n gyfrinachol i hysbysu fy nghydweithwyr bod angen eu cymorth arnaf?
- A oes cyfleuster botwm panig yn yr ystafell?
- Os na, a oes larwm diogelwch personol ar gael?
- Ydw i’n eistedd ar eu lefel nhw?
- Ydw i’n defnyddio cyswllt llygad ac ystumiau llaw agored i ddangos agwedd gymwynasgar?
Uned Cudd-wybodaeth Gwrthderfysgaeth