Neidio i'r prif gynnwys

LANSIO FFILM: Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Ar ddydd Llun 18 Medi 2023, diwrnod cyntaf Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel 2023, lansiwyd ein ffilm gyntaf Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru gyda’r Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, i dynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo cymunedau diogel, cryf a hyderus, a sut mae’r Rhwydwaith yn amhrisiadwy i gyflawni … Parhad

VEVOR: Gwybodaeth Bwysig am Ddiogelwch Cynnyrch

Mae’r Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch (OPSS) yn annog defnyddwyr i wirio unrhyw gynhyrchion Vevor y maent wedi’u prynu’n ddiweddar, yn uniongyrchol o farchnad ar-lein y cwmni neu drwy eraill, yn dilyn mwy na 90 o alwadau yn ôl a rhybuddion diogelwch. Darllenwch yr erthygl newyddion am ragor o wybodaeth yma.

Cynhadledd Rhwydwaith Ymarferwyr ASB Cymru Gyfan 2023

Roeddem yn falch o allu cefnogi Cynhadledd Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cymru Gyfan 2023 ddoe (06/07/2023) yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth ASB. Roedd yn wych gweld cymaint o bartneriaid yn bresennol o Lywodraeth Leol, Plismona, Tân ac Achub, y Trydydd Sector a Llywodraeth Cymru. Cafwyd anerchiad croeso gan Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, a … Parhad

Lansio Cronfa Strydoedd Mwy Diogel – Rownd 5

Heddiw mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi lansiad Rownd 5 o’r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel. Bydd y Rownd yn rhedeg am 18-mis ar draws blynyddoedd ariannol 2023/24 a 2024/25, a bydd yn parhau i ganolbwyntio ar dargedu troseddau cymdogaeth, trais yn erbyn menywod a merched, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ar gyfer y Rownd hon, bydd Comisiynwyr Heddlu … Parhad

Pennod Newydd! Podlediad Cymunedau Mwy Diogel

Ar Ddiwrnod Byd Eang Codi Ymwybyddiaeth Am Gamdriniaeth Pobl Hŷn, rydym yn cyflwyno pennod BONWS o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel gyda Ann Williams, Rheolwr Llinell Gymorth Byw Heb Ofn. Rydyn ni’n archwilio sut mae’r Llinell Gymorth yn cefnogi pobl hyn, y prif heriau mae’r boblogaeth yn gwyebu wrth iddynt heneiddio, a sut does dim terfyn … Parhad

Cronfa i Gymru

Cronfa waddol gymunedol genedlaethol yw Cronfa Cymru, sy’n cael ei rheoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad Cymunedol Cymru. Rhoddir grantiau o rhwng £500 – £2,000 i sefydliadau cymunedol bach ar sail gwirfoddolwyr gyda’u nod o gyflawni’r canlyniadau canlynol: Gall grantiau gefnogi costau llawn neu rannol, er enghraifft: costau prosiectau, eitemau cyfalaf bach ac offer, costau craidd, … Parhad

Rheoli risg a thrawma ar ôl troseddu rhywiol ar-lein

Wedi’i ysgrifennu ar y cyd â Sefydliad Lucy Faithfull, i Canolfan arbenigedd ar gam-drin plant yn rhywiol canllaw newydd hwn yn darparu’r ymchwil ddiweddaraf a gwybodaeth a arweinir gan ymarfer i helpu gweithwyr proffesiynol i amddiffyn a chefnogi teuluoedd yn hyderus ar adeg o drallod emosiynol mawr. Mae rheoli risg a thrawma ar ôl troseddu … Parhad

Prosiect MYFYRIO Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru – Ymgysylltu â Phobl Ifanc

Bydd y Prosiect MYFYRIO yn datblygu partneriaethau ledled De Cymru er mwyn ymgysylltu’n llwyddiannus, codi ymwybyddiaeth ac addysgu plant a phobl ifanc rhwng 11-25 oed am beryglon Tanau Bwriadol, Troseddau Ceir ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn hyrwyddo anghenion plant a phobl ifanc lle bynnag y maent ar eu taith … Parhad

Mabwysiadu dull gweithredu gwahanol i gyflawni System Cyfiawnder Troseddol gwrth-hiliol yng Nghymru

Wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes diogelwch cymunedol a chydlyniant cymunedol, bydd y seminar hon yn archwilio beth mae’n ei olygu i gymryd agwedd gwrth-hiliol; rolau a chyfrifoldebau pobl wyn yn y mudiad gwrth-hiliaeth; a sut y gallwn ni fel gweithwyr proffesiynol gynnwys gwrth-hiliaeth yn ein hymarfer o ddydd i … Parhad

Her Diffoddwyr Tân Cymru – 3 Mehefin 2023

Rydym yn edrych ymlaen at fynychu Her Diffoddwyr Tân Cymru gyda Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru dydd Sadwrn 3 Mehefin yn Abertawe. Bydd gan y Rhwydwaith stondin fel rhan o’r Pentref Diogelwch Cymunedol – gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio! Darganfyddwch mwy yma.