Neidio i'r prif gynnwys

Diogelwch Tân, a Chynnau Tân yn Fwriadol

Archwilio is-bynciau

Beth yw Diogelwch Tân?

Mae Gwasanaethau Tân ac Achub yn chwarae’r rôl allweddol galluogrwydd tân ac achub. Mae’r gwasanaethau wedi symud ymlaen o beth oedd yn wasanaeth ymladd tân yn bennaf i fod yn sefydliad rhagweithiol ymroddedig i atal tanau, marwolaethau ac anafiadau rhag tanau ac argyfyngau fel damweiniau ffordd, digwyddiadau cemegion a llifogydd. Mae’r ddau nod hwn o atal ac ymyrraeth wedi canolbwyntio ar gydlynu addysg diogelwch tân a gweithio gyda phartneriaid lleol, fel Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, yn arbennig o amgylch Tanau Bwriadol a Chynnau Tanau yn Fwriadol, felly yn cyfrannu’n sylweddol at yr agenda diogelwch cymunedol yng Nghymru.

Yng Nghymru, mae yna dri gwasanaeth Tân ac Achub: Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ; Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru  a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Beth yw Tanau Bwriadol?

Tanau Bwriadol yw pan mae rhywun yn cynnau tân yn eiddo rhywun arall i’w ddifrodi neu i anafu pobl. Y gosb uchaf i unrhyw un a ganfyddir yn euog o danau bwriadol yw carchar am oes oherwydd y perygl eithriadol, bygythiad i fywyd a difrod i eiddo.

Rydym wedi gweld bod tanau bwriadol nid yn unig yn dinistrio cartrefi a bywydau ond mae’n gallu difrodi’r amgylchedd o’n cwmpas. Mae lleihau tanau bwriadol yn helpu i ddiogelu ansawdd a hyfywedd y mannau ble rydym yn byw, gweithio, dysgu ac yn treulio ein hamser hamdden. Rydym angen gweithio gyda gwirfoddolwyr, cymunedau a grwpiau ar draws Cymru i’w helpu i leihau achosion ac effaith tanau bwriadol o fewn ein cymunedau. Rydym eisiau diogelu ein cymunedau rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â chynnau tân, fel tipio anghyfreithlon, llosgi gwastraff a fandaliaeth mewn ysgolion a cholegau.  Rydym eisiau newid diwylliant ar draws Cymru fel bod cymunedau yn gweld tanau bwriadol yn annerbyniol yn gymdeithasol ac yn weithredol o ran cydnerthu cymunedol. Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol Cymru

Pennod 1: Podlediad Cymunedau Mwy Diogel (Sianel Saesneg) gyda’r Prif Swyddog Tân, Chris Davies

Listen to “The Safer Communities Podcast Trailer” on Spreaker.

Dolenni defnyddiol

Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol Cymru

Darllenwch yr Strategaeth

Canllawiau, Cefnogaeth a Pholisi Llywodraeth Cymru Tân ac achub

Darllenwch yr Canllawiau

National Fire Chiefs Council – Gwerth Economaidd a Chymdeithasol Gwasanaethau Tân ac Achub y DU

Darllenwch yr Adroddiad

Gwyliwch y Fideo


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os digwydd tân, yna ffoniwch 999.

Mae pob gwefan Gwasanaeth Tân ac Achub  yng Nghymru yn darparu cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol ar sut y gallwch atal tanau yn y cartref, beth i’w wneud os bydd yna dân a’r gwasanaethau sydd ar gael i’ch cefnogi i ddiogelu eich cartref rhag y risg o dân.

Mae timau lleihau tanau bwriadol a throsedd tân yn helpu i fynd i’r afael â phroblem cynnau tân yn fwriadol, fel nad yw pobl, cymunedau, busnesau, yr amgylchedd na threftadaeth yr ardal mewn unrhyw berygl.  Mae manylion cyswllt timau ar gael ar dudalennau gwefan pob Gwasanaeth Tân ac Achub drwy Ganolbarth a Gorllewin Cymru; Gogledd Cymru a De Cymru.

Mae yna gefnogaeth ar gael i ddioddefwyr tanau bwriadol drwy Cymorth i Ddioddefwyr.