Neidio i'r prif gynnwys
Archwilio is-bynciau

Dargyfeirio ar gyfer troseddau yn ymwneud â meddu ar gyffuriau

yn ardal Dyfed Powys

Mae dargyfeirio tuag at driniaeth yn un o gonglfeini strategaeth gyffuriau Heddlu Dyfed Powys. Mae cynllun llwyddiannus wedi ei gyflwyno ar gyfer oedolion sy’n cael eu dal gyda sylweddau anghyfreithlon yn eu meddiant, gan gynnig llwybr tuag at driniaeth ac adferiad y tu allan i’r system gyfiawnder troseddol draddodiadol.

Mae tri budd craidd i’r prosiect.

  • Cyfradd gadarnhaol o ymgysylltu gyda gwasanaethau triniaeth a gostyngiad yn y galw ar lefel y stryd am gyffuriau.
  • Cynnydd yng nghapasiti’r heddlu, gan alluogi swyddogion i ganolbwyntio ar atal, mynd i’r afael â chyflenwad cyffuriau a meysydd eraill o flaenoriaeth.
  • Llai o bwysau ar y system gyfiawnder troseddol, gyda llai o ymchwiliadau agored a symud y ffocws tuag at droseddau cyffuriau mwy difrifol.

Ymunwch â Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn a’r Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Roberts ar 3 Mehefin wrth iddynt drafod sut y cafodd y cynllun ei gyflwyno, y bartneriaeth aml-asiantaeth y tu ôl iddo a’r llwyddiannau a’r heriau o wreiddio ymagwedd iechyd cyhoeddus tuag at feddu ar gyffuriau.

Archebwch yma