Neidio i'r prif gynnwys

Mabwysiadu dull gweithredu gwahanol i gyflawni CJS gwrth-hiliol

Archwilio is-bynciau

Mabwysiadu dull gweithredu gwahanol i gyflawni System Cyfiawnder Troseddol gwrth-hiliol yng Nghymru

Ar Ddydd Iau 22 Mehefin 2023, 10:00 – 11:30, cynhaliodd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru seminar ar Mabwysiadu dull gweithredu gwahanol i gyflawni System Cyfiawnder Troseddol gwrth-hiliol yng Nghymru.

Wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes diogelwch cymunedol a chydlyniant cymunedol, roedd y seminar hon yn archwilio beth mae’n ei olygu i gymryd agwedd gwrth-hiliol; rolau a chyfrifoldebau pobl wyn yn y mudiad gwrth-hiliaeth; a sut y gallwn ni fel gweithwyr proffesiynol gynnwys gwrth-hiliaeth yn ein hymarfer o ddydd i ddydd.

Gyda chyflwynwyr sy’n gweithio ar Gynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru, roedd hon yn sesiwn ryngweithiol lle gallwch ddysgu yn ogystal â gwrando.

Isod fe welwch y pecyn ôl-seminar a chopi o gyflwyniadau siaradwyr.