Neidio i'r prif gynnwys
Archwilio is-bynciau

Ardal Marmot: Creu Gwent mwy diogel

 

Mae dull Dinas Marmot, a arloeswyd gan Syr Michael Marmot, yn canolbwyntio ar ddefnyddio model sy’n ystyriol o drawma i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd sy’n effeithio ar unigolion a chymunedau ehangach.  Mabwysiadodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent egwyddorion Marmot i greu fframwaith rhanbarthol ar draws Gwent – Creu Gwent Decach.

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng anghydraddoldebau iechyd, y risg o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma a’r effeithiau sylweddol y mae’r rhain yn ei gael ar gymunedau a diogelwch cymunedol.

Yn y seminar hwn, bydd yr Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus a Phartneriaethau Strategol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a David Leech, Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymuno â ni.  Byddant yn archwilio’r dull Marmot, yn rhannu pam fod Gwent wedi ei fabwysiadu ar lefel rhanbarthol, ac yn myfyrio ar yr heriau a’r cyfleoedd y mae’r bartneriaeth hon wedi’u llywio.

Mae’r gwaith hwn yn gyfraniad hanfodol i ddatblygu ein dealltwriaeth o fentrau ar lefel cymunedol sydd wedi’u dylunio i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol ac, yn y pen draw, meithrin gwell lles a diogelwch cymunedol.

Archebwch yma