Neidio i'r prif gynnwys
Archwilio is-bynciau

Gofal Cywir, Person Cywir

Y cynnydd o ran ei chyflwyno a’i gweithredu

 

Mae Gofal Cywir, Person Cywir (RCRP) yn fenter Cymru a Lloegr gyfan wedi’i harwain gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Bydd yn sicrhau bod pobl sydd angen cyngor neu gymorth iechyd meddwl yn cael y gofal cywir, gan yr asiantaeth sydd â’r sgiliau mwyaf priodol.

Mae RCRP yn cael ei chyflwyno trwy Gymru gan yr Heddlu mewn dull graddol, wedi’i goruchwylio gan Grŵp Partneriaeth Cenedlaethol RCRP Cymru.

Bydd y seminar awr o hyd hwn, a gynhelir ar 25 Mehefin, yn galluogi i ymarferwyr gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cyflwyno’r fenter, yn cynnwys yr amserlen a’r camau gweithredu, a beth mae hyn yn ei olygu i ymarferwyr rheng flaen yng Nghymru.

Byddwn yn edrych tua’r dyfodol ar gamau 3 a 4 o gyflwyno’r fenter, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa’r pedwar llu heddlu yng Nghymru, yn cynnwys y gwersi a ddysgwyd hyd yn hyn.  Byddwn hefyd yn clywed gan Gadeirydd Grŵp Partneriaeth Cenedlaethol RCRP Cymru am y cynllun cyfathrebu cenedlaethol, y strwythur llywodraethu a sut all ymarferwyr godi pryderon.

Archebwch yma